Our Next Film: In the Fade (Aus Dem Nichts)

Dydd Mercher, 17 Hydref 2018, 2:00 yh & 7:30 yh

2017, Almaen/Ffrainc, 106 munud, (18) isdeitlau
Cyfarwyddwr – Faith Akin

Yn y ffilm afaelgar hon, cawn berfformiad rhyfeddol gan Diane Kruger, mewn rhan a enillodd iddi’r wobr am yr actores orau yn Cannes. Stori wleidyddol yw hi o alar a thrais yn Yr Almaen. Yn dilyn llofruddiaeth ei gŵr a’i phlentyn gan Neo-Natsïaid, mae dynes o Hamburg yn chwilio am ddialedd mewn brwydr ffyrnig dros gyfiawnder.

RHAGFLAS:

GWE-DDOLENNI:
IMDb – In The Fade
Rotten Tomatoes – In The Fade