Yn y ffilm afaelgar hon, cawn berfformiad rhyfeddol gan Diane Kruger, mewn rhan a enillodd iddi’r wobr am yr actores orau yn Cannes. Stori wleidyddol yw hi o alar a thrais yn Yr Almaen. Yn dilyn llofruddiaeth ei gŵr a’i phlentyn gan Neo-Natsïaid, mae dynes o Hamburg yn chwilio am ddialedd mewn brwydr ffyrnig dros gyfiawnder.
2017, DU, 107 munud, (15)
Cyfarwyddwr – Michael Pearce
Mae menyw ofidus, sy’n byw mewn cymuned anghysbell, yn cael ei rhwygo rhwng rheolaeth ei theulu gormesol ac atyniad dieithryn cyfrinachgar sydd wedi’i gyhuddo o gyfres o lofruddiaethau creulon.
2017, Chile/Sbaen, 104 munud, (R) subtitled
Cyfarwyddwr – Sebastian Lelio
Mae Daniela Vega’n chwarae rôl cantores drawsryweddol y mae ei pherthynas â dyn llawer hŷn yn dod i ben sydyn pan fydd e’n dioddef ymlediad marwol. Yn hytrach na chael ei thrin â thosturi, mae hi’n wynebu amheuaeth a dirmyg gan yr awdurdodau a gelyniaeth gan ei deulu. Datguddiad trawiadol o ddewrder a chryfder.